This site is now archived. Please click here to view the latest UK Transition work

Please close this popup if you want to continue viewing the archive of work between 2019-2021

Tyfu Syniadau Gwych – Cyhoeddi Cyllid Newydd!

in News

Diolch i bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, mae’r Rhwydwaith Trawsnewid wedi derbyn grant gwerth £5,977,444 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Tyfu Syniadau Gwych  ar gyfer gwaith ym Mhrydain dros y deng mlynedd nesaf.

Diben Tyfu Syniadau Gwych yw cefnogi newid trawsnewidiol ar draws y DU, sy’n cyfateb i faint yr heriau a’r cymhlethdodau sy’n ein hwynebu.  Trwy ddarparu buddsoddiad hirdymor i grwpiau a rhwydweithio sy’n gwneud gwaith arloesol mewn ffyrdd newydd, fydd yn mynd ymhell tu hwnt i drwsio neu addasu’r systemau cyfredol, ei nod yw trawsnewid systemau ein bywyd yn y bôn.

Braint yw cael ein cydnabod fel rhwydwaith arloesol, ac rydym yn croesawu’r cyfle i adeiladu ar waith anhygoel grwpiau Trawsnewid ym Mhrydain a wnaethpwyd dros y 15 mlynedd diwethaf – wrth feithrin gwydnwch, cynaliadwyedd a chydraddoldeb cymdeithasol yn eu cymunedau. Gyda’r cyllid hirdymor yma, byddwn yn datblygu seilwaith a chapasiti ein grwpiau – a’u cefnogi i lansio mentrau newydd, i feithrin partneriaethau amrywiol, datblygu sgiliau a rhannu arfer orau, a’n galluogi i gyfoethogi, ymestyn ac ehangu effaith ein rhwydwaith.

Gwnawn hyn drwy ganolbwyntio ar 4 maes craidd:

Meithrin y Rhwydwaith a Chapasiti
Byddwn yn defnyddio strategaethau arweinyddiaeth rhwydweithiau cymunedol i greu’r amodau i greu cysylltiadau rhwng cymheiriaid, cymorth a dysg. Trwy ddefnyddio cyfuniad o arfau ar-lein, hyfforddiant a digwyddiadau byddwn yn cefnogi pobl a grwpiau ym Mhrydain i ddatblygu a chyfoethogi eu sgiliau a magu cysylltiadau newydd ar draws y wlad. Rydym am greu capasiti cymunedau lleol er mwyn iddynt arwain ac ymgysylltu ag arferion rhagolwg a dychymyg yn ogystal â datblygu gwell dealltwriaeth o weithio gyda phŵer cymhleth a deinameg hiliol.

Cyllid Sbarduno
Bob blwyddyn, byddwn yn dosbarthu adnoddau i grwpiau Trawsnewid a’u partneriaid yng Nghymru a Lloegr i alluogi gweithgareddau ar lawr gwlad sy’n cael effaith yn y gymuned ac sy’n meithrin capasiti ac uchelgais grwpiau. Byddwn yn gwireddu hyn drwy gyllid sbarduno ar ffurf micro-grantiau ar gyfer grwpiau lleol er mwyn rhedeg arbrofion hynod leol. Trwy wneud hyn, bydd yn caniatáu mwy o gymunedau i arloesi ac arbrofi gydag atebion sy’n cael eu harwain gan ac sy’n eiddo i’r gymuned leol, o ran problemau cymdeithasol parhaus.

Datblygu Hwb
Byddwn yn cefnogi datblygu arweinyddiaeth ddosbarthol ar lawr gwlad ar draws grwpiau Trawsnewid yng Nghymru a Lloegr – gan greu’r seilwaith i ddatganoli’r mudiad mewn ffordd a wireddwyd eisoes yn yr Alban a rhannau eraill o’r byd. Bydd y llinyn hwn yn cefnogi’r newid i fodel arweinyddiaeth sy’n gweddu i gyfeiriad hirdymor y Rhwydwaith Trawsnewid tuag at ddosbarthu pŵer, adnoddau a chyfrifoldebau i Hybiau a chylchoedd Trawsnewid.

Symud Mudiadau
Hefyd byddwn yn canolbwyntio ar gefnogi datblygu rhwydweithiau, cysylltiadau a phartneriaethau rhwng pobl a sefydliadau gwahanol o bob math, sy’n gweithio i feithrin pŵer a gwydnwch yn y gymuned ar draws Prydain. Byddwn yn cyfrannu at greu ecoleg o fudiadau dan arweiniad y gymuned trwy ddatblygu cynghrair CTRLshift a chefnogi Hwb Trawsnewid yr Alban a Rhwydwaith Cymunedau’r Alban sy’n Gweithredu ar yr Hinsawdd, gan alluogi gwireddu mwy o gydweithio a photensial.

Bydd y cyllid yn caniatáu inni adeiladu ar y gwaith gwych a wnaethpwyd eleni gan dîm Bounce Forward Transition fydd yn arwain y gwaith yma ac yn lansio eu henw a’u gwefan newydd ym mis Medi.

Rydym yn gyffrous iawn i allu rhannu’r newyddion yma gyda chi heddiw ac am weithio gydag ecosystem anhygoel o grwpiau Trawsnewid a sefydliadau partner wrth inni feithrin cymunedau mwy gwydn, cynaliadwy a chyfiawn o safbwynt cymdeithasol dros y 10 mlynedd nesaf.

Gallwch ddarllen mwy am ein gweledigaeth yn y blog yma a gyhoeddwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a chofiwch gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn peidio colli’r diweddariadau cyffrous a datblygiadau’r prosiect wrth iddynt ddigwydd.

Diolch yn fawr i bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth i dyfu syniadau gwych.